Gŵyl Gerdd Llanfyllin Music Festival
Ers ychydig dros 40 mlynedd, mae’r Allegri String Quartet, sef ensemble cerddoriaeth siambr mwyaf hirhoedlog Prydain (sefydlwyd ef ym 1953), wedi bod yn treulio amser bob haf yn difyrru cynulleidfaoedd yn Eglwys Sant Myllin, Llanfyllin yng nghalon Canolbarth Cymru. Datblygodd y cyngherddau cyntaf hynny a gynhaliwyd gan y pedwarawd gwreiddiol i ddod yn ganolbwynt Gŵyl Gerdd flynyddol Llanfyllin.
Dros y blynyddoedd, mae’r Ŵyl wedi ehangu i gynnwys perfformiadau gan gerddorion ac artistiaid eraill o safon ryngwladol. Mewn blynyddoedd diweddar, fel rhan o’r Ŵyl, mae’r Allegri wedi chwarae rhan mewn gwaith allgymorth addysgol mewn Dosbarthiadau Cerdd â’r Meistri a Chyngherddau i gerddorion ifanc yn y sir.